Mae awdurdodau Hong Kong wedi diddymu bil estraddodi dadleuol sydd wedi arwain at brotestiadau cenedlaethol rheolaidd dros y misoedd diwethaf.

Daeth cadarnhad o’r newyddion gan John Lee, ysgrifennydd diogelwch y wlad, sy’n gwrthod ateb cwestiynau am y penderfyniad ac sydd wedi’i warchod gan gyfraith y wlad rhag cael ei dynnu i mewn i ddadl ar y pwnc.

Daw terfyn ar y ffrae ddeddfwriaethol wrth i Chan Tong-kai, a fu yn y ddalfa ar gyhuddiadau o wyngalchu arian, ddweud ei fod e am fynd at awdurdodau Taiwan, lle mae’r awdurdodau eisiau ei holi ar amheuaeth o lofruddio’i gariad feichiog.

Dywedodd awdurdodau Taiwan ddoe (dydd Mawrth, Hydref 22) eu bod nhw’n barod i anfon amdano a’i ddychwelyd i’r wlad i gael ei holi, ond fe wnaeth Hong Kong wrthod y cais gan ddweud y dylai gael yr hawl i ddychwelyd ar ei liwt ei hun.

Dydi Hong Kong ddim yn cydnabod awdurdod cyrff cyfreithiol Taiwan ar ôl iddyn nhw dorri’n rhydd o Tsieina.

Fe fu Carrie Lam, arweinydd Hong Kong, yn cyfeirio at yr achos yn rheolaidd fel cyfiawnhad fod angen deddfwriaeth estraddodi newydd, gan ddweud nad oedd modd anfon Chan Tong-kai i Taiwan am nad oedd cytundeb estraddodi yn ei le.

Ond mae’r achos hefyd wedi arwain at bryderon y gallai trigolion Hong Kong ddioddef pe baen nhw’n cael eu hanfon i Tsieina.

Mae’r mater wedi gweld protestiadau rheolaidd yn cael eu cynnal ers mis Mehefin, yr argyfwng gwleidyddol gwaethaf yn y wlad ers degawdau.