Mae reiat, cynnau tanau bwriadol a gwrthdaro treisgar gyda’r heddlu, yn dal i ddigwydd yn Chile, wrth i brotestiadau barhau am bumed diwrnod.
Mae nifer y bobol sydd wed’u lladd bellach yn 15, ac mae’r wlad gyfan ar ei gliniau.
Mae’r arlywydd Sebastian Pinera wedi cyhoeddi ar deledu ei fod yn bwriadu codi cyflogau’r rheiny sydd ar yr haen isaf, tra’n codi mwy o drethi ar y cyfoethocaf yn y gymdeithas.
Y gobaith yw y bydd hynny’n tymheru rhywfaint ar y dicter sydd wedi gwneud i bobol fynd allan i brotestio ar y strydoedd.
Mae tua hanner yr 16 o ranbarthau yn Chile yn dal i fod mewn stad o argyfwng, a’r fyddin yn ceisio cadw trefn ar fynd a dod pobol.
Fe gafodd y protestio diweddara’ hwn ei danio yn y wlad sydd fel arfer yn un draddodiadol a sefydlog, wedi i gostau ticedi trên fynd i fyny 4%.