Mae corwynt wedi lladd pedwar o bobol yn Arkansas ac Oklahoma yn yr Unol Daleithiau, wrth i gyfres o stormydd achosi hafoc yno.

Fe achosodd corwynt ddifrod mawr i gartrefi a busnesau yn Dallas, Tecsas, a chafodd tri o bobol eu cludo i’r ysbyty yn y dalaith.

Mae degau o filoedd o bobol wedi eu gadael heb bŵer na thrydan yn eu cartrefi.