Mae’n edrych yn debygol iawn mai plaid ryddfrydol Justin Trudeau sydd am ennill ail dymor mewn grym yn dilyn etholiadau Canada.

Mae ei baid wedi sicrhau canlyniad cryf er bod cyfres o straeon a ‘sgandalau’ wedi cael eu cyhoeddi am Justin Trudeau yn y cyfnod cyn y pôl.

Roedd disgwyl y byddai’r rhyddfrydwyr yn ennill 338 o seddi yn y senedd, gan roi’r cyfle gorau iddyn nhw i sefydlu llywodraeth.

Ond mae’n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar ffyrfio clymblaid er mwyn aros mewn grym.