Mae o leiaf 15 o bobol wedi marw ar ôl i argae ddymchwel mewn gweithfeydd aur yn Rwsia, gan achosi llifogydd difrifol.
Mae llywodraeth Rwsia yn dweud bod saith o bobol ar goll a bod 16 o bobol wedi cael eu hanafu ger pentref Shchetinkino yn rhanbarth Krasnoyarsk.
Mae ymchwiliad troseddol ar y gweill, gyda pherchnogion yn wynebu cyhuddiadau mewn perthynas â rheolau iechyd a diogelwch.
Mae’r chwilio wedi dod i ben am y tro, ond mae disgwyl i’r ymdrechion ddechrau eto yfory (dydd Sul, Hydref 20).