Mae aelodau seneddol wedi derbyn gwelliant wrth drafod bargen Boris Johnson ar Brexit.

Cafodd ei dderbyn o 322 o bleidleisiau i 306, ac mae’n golygu bellach na fydd pleidlais ar fargen Boris Johnson heddiw.

Roedd awgrym cyn y bleidlais fod y DUP am gefnogi’r gwelliant, sy’n gryn ergyd i Boris Johnson sydd fel arfer yn manteisio ar eu cefnogaeth wrth iddyn nhw gefnogi mesurau Llywodraeth Prydain.

Mae’r gwelliant, a gafodd ei gyflwyno gan Syr Oliver Letwin, yn gohirio cefnogaeth y senedd i fargen Boris Johnson tan bod deddfwriaeth yn ei lle i weithredu ar y fargen.

Gallai’r ddeddfwriaeth honno gael ei chyflwyno’r wythnos nesaf yn y gobaith o sicrhau sêl bendith i’r fargen erbyn Hydref 31.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i aelodau seneddol graffu ar y fargen ac unrhyw gamau mae Boris Johnson yn eu cymryd yn broses Brexit.

O basio’r gwelliant, mae’n bosib y bydd rhaid i Boris Johnson geisio estyniad i Brexit ac mae’n atal prif weinidog Prydain rhag defnyddio ffordd gynnil o geisio Brexit heb gytundeb.

Er mwyn ymestyn Brexit, fe fydd rhaid i Boris Johnson gyflwyno cais ysgrifenedig i’r Undeb Ewropeaidd erbyn 11 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Hydref 19).

Ond mae wedi awgrymu’n gryf yn y gorffennol, ac eto heddiw, na fyddai’n fodlon gwneud hynny, er bod gofyn iddo wneud yn gyfreithiol yn ôl Deddf Benn – rhywbeth mae’n ei wfftio.

Canlyniad y bleidlais

Mae’n ymddangos bod 231 o aelodau seneddol Llafur wedi cefnogi’r gwelliant, a chwech wedi ei wrthod.

Fe wnaeth pob un o 10 aelod seneddol y DUP ei gefnogi.

Roedd 283 o aelodau seneddol Ceidwadol yn ei wrthwynebu, ynghyd â chwech aelod seneddol Llafur ac 17 aelod annibynnol.

Roedd 19 o Ddemocratiaid Rhyddfrydol hefyd yn ei wrthwynebu, ynghyd â 35 o aelodau seneddol yr SNP, pob un o bedwar aelod seneddol Plaid Cymru, pum aelod annibynnol Change a Caroline Lucas, aelod seneddol y Blaid Werdd.