Gallai bargen Brexit Boris Johnson arwain at hollti’r Deyrnas Unedig, yn ôl yr Arglwydd Kerslake, cyn-bennaeth y Gwasanaeth Sifil.
Daw’r rhybudd wrth i aelodau seneddol gwrdd yn San Steffan am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn ers 37 o flynyddoedd.
Yn ôl yr Arglwydd Kerslake, gallai’r fargen arwain at Alban annibynnol gan y byddai’n anodd gwrthod ail refferendwm.
Mae’n dweud bod y fargen hon yn waeth na’r un flaenorol, ac mai’r unig reswm y cafodd ei chyflwyno oedd am fod San Steffan yn dioddef o “or-flinder Brexit”.
Mae’n dweud mai’r un yw’r fargen hon ag un Theresa May, yn y bôn, a bod yr unig newidiadau sydd wedi cael eu gwneud “am y gwaethaf”.
“Mae cytundeb Johnson yn ei hanfod yn ychwanegu at y risg o dorri’r Deyrnas Unedig i fyny,” meddai.
“Os caiff y cytundeb hwn ei dderbyn, byddai ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban bron yn amhosib i’w wrthod ac fe fyddai llawer mwy o obaith y byddai’n llwyddo.”
Mae’n galw am ail refferendwm Brexit er mwyn rhoi’r holl fanylion i’r pleidleiswyr yr ail dro.