Bu’n rhaid gohirio sesiwn arall yng Nghynulliad Hong Kong yn dilyn ffrae danllyd rhwng arweinydd y rhanbarth ac aelodau’r wrthblaid.
Cafodd rhai o’r gwleidyddion eu cludo o’r siambr gan swyddogion diogelwch ar ôl iddyn nhw fod yn gweiddi ac yn dal placardiau oedd yn awgrymu bod gan y prif weithredwr, Carrie Lam, waed ar ei dwylo.
Gohiriwyd y cyfarfod dramatig ddiwrnod ar ôl i Carrie Lam orfod rhoi’r gorau i’w Hanerchiad Blynyddol yn y siambr, gan ei draddodi ar y teledu yn lle.
Mae’r ffraeo o fewn Cynulliad Hong Kong, a’r ymosodiad ar arweinydd y protestwyr, Jimmy Sham, neithiwr (nos Fercher, Hydref 16), yn dynodi newid yn nhôn y protestiadau diweddar.
Mae gwrthdystwyr wedi bod yn amharu ar Hong Kong oddi ar fis Mehefin, ac mae’r gwrthdaro rhyngddyn nhw a’r awdurdodau yn mynd yn fwyfwy treisgar.