Mae plaid y DUP wedi dweud nad ydyn nhw’n gallu cefnogi cynlluniau Brexit Boris Johnson yn eu ffurf bresennol.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn ergyd arall i’r Prif Weinidog a oedd yn gobeithio dod â chytundeb yn ôl o Frwsel er mwyn ei gyflwyno gerbron Aelodau Seneddol ddydd Sadwrn (Hydref 19).
Bydd Boris Johnson yng Ngwlad Belg heddiw (dydd Iau, Hydref 17) er mwyn ceisio ennill cefnogaeth arweinwyr Ewrop mewn uwchgynhadledd arbennig.
Ond er mwyn i’r cytundeb gael ei gymeradwyo yn San Steffan, mae cefnogaeth y DUP yn hanfodol i’r Llywodraeth, sydd wedi colli ei fwyafrif yn yr wythnosau diwethaf.
Mewn datganiad, mae’r blaid yn nodi bod tri pheth yn eu hatal rhag cefnogi’r cynlluniau Brexit presennol, gyda’r rheiny’n ymwneud â thollau, y broses gymeradwyo a VAT.
“Fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio gyda’r Llywodraeth ac yn ceisio ffurfio cytundeb synhwyrol sy’n gweithio i Ogledd Iwerddon ac yn amddiffyn undod economaidd a chyfansoddiadol y Deyrnas Unedig,” meddai datganiad ar y cyd rhwng arweinydd y DUP, Arlene Foster, a’i dirprwy, Nigel Dodds.