Mae arweinydd Hong Kong wedi ei hatal rhag traddodi ei Hanerchiad Blynyddol, ar ôl i wleidyddion fynegi eu hanfodlonrwydd ynglŷn â’i rhan yn y protestiadau diweddar.

Mae’r anallu i gyhoeddi ei pholisïau ar gyfer y rhanbarth yn ergyd arall i Carrie Lam yn dilyn misoedd o brotestio.

Roedd y prif weithredwr wedi dechrau traethu pan ddechreuodd aelodau sy’n cefnogi’r protestwyr weiddi arni.

Gadawodd siambr y Cyngor Deddfwriaethol yn sgil hyn, cyn dychwelyd ychydig funudau yn ddiweddarach er mwyn ail-ddechrau. Ond torrodd ei gwrthwynebwyr ar ei thraws unwaith eto a bu’n rhaid rhoi’r gorau i’r anerchiad.

Mewn cynhadledd frys yn sgil y cyfarfod tanllyd, fe alwodd y gwrthwynebwyr am ymddiswyddiad Carrie Lam.

“Dyma’r unig ffordd y gallwn ni gael gwell ddyfodol,” meddai un ohonyn nhw, Tanya Chan.