Mae Donald Trump wedi dweud wrth rieni’r diweddar Harry Dunn na fydd y ddynes sy’n cael ei chyhuddo o’i ladd yn dychwelyd i wledydd Prydain er mwyn mynd o flaen ei gwell.

Fe ddychwelodd Anne Sacoolas i’r Unol Daleithiau yn dilyn gwrthdrawiad yn Swydd Northampton ym mis Awst pan laddwyd y llanc, 19.

Yn dilyn cyfarfod yn y Tŷ Gwyn, dywedodd llefarydd ar ran teulu Harry Dunn fod y frwydr am gyfiawnder yn parhau.

Dywedodd y ddau – Charlotte Charles a Tim Dunn – fod yna “rywfaint o gynnydd” wedi cael ei wneud yn ystod y cyfarfod, cyn ychwanegu eu bod nhw’n dal i aros am atebion.

Fe wnaethon nhw wrthod cyfarfod ag Anne Sacoolas, sy’n wraig i ddiplomydd o’r Unol Daleithiau, yn ystod yr un cyfarfod.

Mae’r ddynes eisoes wedi dweud ei bod hi “wir yn sori” ynglŷn â’r hyn a ddigwyddodd i Harry Dunn ger maes awyr Croughton ar Awst 27.