Mae Heddlu De Cymru yn apslio am dystion wedi damain angheuol ar Ffordd Blaenau’r Cymoedd ddoe (dydd Mawrth, Hydref 15).
Fe ddigwyddodd gwrthdrawiad rhwng Renault Kangoo lliw glas a Renault Megane du ar yr A465 tua 4.10yp, a hynny rhwng Baverstocks a Hirwaun.
Er i’r gwasanaethau brys wneud eu gorau i geisio achub gyrrwr 63 oed y Renault Kangoo, bu farw yn y fan a’r lle.
Mae gyrrwr 27 oed y Renault Megane wedi’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle mae mewn cyflwr critigol.