Mae o leiaf 13 plismon wedi cael eu lladd, a naw arall wedi eu hanafu, yn dilyn ymosodiad dirybudd ym Mecsico.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad yn nhalaith orllewinol Michoacan, lle mae gangiau cyffuriau wedi achosi cynnydd mewn trais yn ddiweddar.

Roedd swyddogion yr heddlu wedi mynd at gartref yn nhref El Aquaje pan gawson nhw eu saethu gan “sifiliaid â gynnau”, yn ôl yr awdurdodau.

Mae llywodraethwr y dalaith, Silvano Aureoles, wedi addo dial am yr ymosodiad sy’n cael ei ddisgrifio ganddo fel un “cachgïaidd”.

Mae’n debyg nad yw Michoacan – talaith bwysig ar gyfer y diwydiant avacado – wedi gweld y fath drais ers y rhyfel gwaedlyd yn erbyn gangiau cyffuriau rhwng 2006 a 2012.