Mae Boris Johnson wedi defnyddio geiriau o gân rap y band Goldie Lookin Chain wrth iddo dalu teyrnged i Aelod Seneddol Llafur.
Roedd y band o Gasnewydd wedi rhyddhau cån i gofio am Paul Flynn, a fu farw ym mis Chwefror eleni.
Fe gynrychiolodd Paul Flynn etholaeth Gorllewin Casnewydd yn San Steffan am 32 mlynedd.
“Roedd yn Gymro balch, a gafodd y deyrnged yma gan Goldie Lookin Chain, band rap o Gasnewydd,” meddai Boris Johnson, cyn dyfynnu pennill o waith y band…
‘As an MP he was well respected, since 1987 when first elected; Across the parties Paul was revered, and it’s just possible he was born with that beard; Across the floor, far and wide, respected across the political divide; Regardless of your own stance, left or right, raise a glass to Paul tonight.’