Mae dyn sydd dan amheuaeth o ymosod ar synagog yn yr Almaen wedi cael ei gyhuddo o geisio cyflawni “cyflafan”.
Bu farw dau berson yn sgil yr ymosodiad yn ninas Halle ar ddiwrnod sanctaidd Yom Kippur (Hydref 9).
A bellach mae’r dinesydd Almaenaidd, Stephen B, wedi ei gyhuddo o gyflawni dwy lofruddiaeth ac o geisio a chyflawni naw llofruddiaeth.
Yn ôl y Prif Erlynydd Ffederal, Peter Frank, roedd yr ymosodiad yn “weithred o godi braw”, ac mi drïodd a lledu “effaith ledled y byd” trwy ddarlledu ei ymosodiad ar lein.
Mae llawer o gwestiynau ynghylch yr ymosodwr honedig sydd angen eu hateb, yn ôl yr erlynydd, a does dim sicrwydd ynghylch sut y creodd ei arfau.
Mae’r ymosodiad wedi codi rhagor o bryderon yn yr Almaen am eithafiaeth asgell dde, ac am allu’r heddlu wrth ymateb i’r fath ymosodiadau.