Mae wedi dod i’r amlwg fod yr ymosodiad ger synagog yn yr Almaen wedi ei ddarlledu’n fyw ar wefan gemau cyfrifiadurol.

Bu i ddyn arfog oedd yn rantio am Iddewon geisio gwthio ei ffordd i mewn i synagog yn ninass Halle ar ddiwrnod sanctaidd Yom Kippur, cyn saethu dau berson mewn ymosodiad gerllaw.

Saethodd yr ymosodwr at ddrws y synagog, ond ni lwyddodd dorri mewn tra roedd rhwng 70 ac 80 o bobol y tu mewn.

Gwaeddodd mai Iddewon yw “gwraidd problemau fel ffeministiaeth a mewnfudo”.

Dywed hefyd fod fideo 36 munud o hyd wedi ei ddarlledu ar-lein o’r ymosodwr yn siarad cymysgedd o Saesneg ac Almaeneg ac yn gwadu fod yr Holocaust wedi digwydd cyn saethu dynes yn y stryd ar ôl methu a thorri i mewn i’r synagog.

Yna aeth i siop kebab cyfagos a lladd person arall cyn ffoi.