Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i’r bleidlais ar y ddeddfwriaeth i roi enw dwyieithog ar y Cynulliad ym Mae Caerdydd trwy ddweud y gallai un enw Cymraeg – ‘Senedd’ uno’r genedl.
“Mae’n amlwg o’r sylwadau yn y ddadl ddoe (dydd Mercher, Hydref 9) bod llawer iawn o gefnogaeth ar draws y pleidiau i’r enw uniaith Gymraeg, ‘Senedd’,” meddai Osian Rhys, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Dim ond hanner ffordd drwy’r cyfnod deddfu mae’r gwleidyddion, felly bydd cyfle arall i wthio gwelliant i sicrhau hynny enw uniaith ymhen ychydig wythnosau. Byddwn ni’n parhau â’r ymgyrch gyda’r nod yna mewn golwg.
“Credwn yn gryf fod y Gymraeg yn iaith sy’n uno pawb yng Nghymru, drwy eiriau’r anthem genedlaethol er enghraifft,” meddai wedyn.
“Roedd hi’n siomedig clywed rhai aelodau o’r Senedd yn siarad yn nawddoglyd am bobl sydd ddim yn siarad Cymraeg ar hyn o bryd. Rydyn ni o’r farn bod ‘Senedd’ yn enw a all ein huno ni i gyd, ac mae’n amlwg bod y cyhoedd yn cytuno hefyd.”