Mae Lego yn treialu cynllun lle y medr cwsmeriaid anfon eu hen ddarnau yn ôl, er mwyn ail-gylchu’r brics plastig ar gyfer plant eraill.
Mae’r cwmni o Ddenmarc yn annog cwsmeriaid yn yr Unol Daleithiau i argraffu label i’w roi ar amlen a fydd yn caniatau iddyn nhw bostio eu hen frics yn ôl yn rhad ac am ddim.
Mae Lego yn addo glanhau’r briciau, eu rhoi nhw mewn bocs a’u rhoi i elusen Tech for America i’w dosbarthu i blant ledled America.
Os y bydd yr arbrawf yn llwyddiant, mae Lego yn dweud y gallai ymestyn y cynllun i gynnwys gwledydd eraill y flwyddyn nesaf.
Dydi plastig ddim yn torri i lawr mewn ffordd eco-gyfeillgar, ac mae yna beryg iddo ddad-elfennu yn ddarnau llai sy’n cael eu bwyta gan adar neu anifeiliaid gwyllt eraill.
Am hynny, mae Lego hefyd wrthi’n ceisio dod o hyd i ddeunydd newydd ar gyfer ei frics lliwgar. Ond mae dod o hyd i un sydd mor gryf â phlastig, yn profi’n anodd.