Mae’n edrych yn annhebygol y caiff Boris Johnson gytundeb Brexit wrth i wrthwynebiadau Brwsel ddod yn amlycach.

Dywed Boris Johnson fod ei gynnig i ddatrys y broblem Gogledd Iwerddon yn “gyfaddawd teg a rhesymol”.

Ond hyd yn hyn mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wedi gwrthod trafod y mater yn fanwl, gan ddweud nad yw’r cynnig yn sail ar gyfer trefniant Brexit newydd.

“Gadael ar Hydref 31”

Er Boris Johnson yn dal i ddweud nad yw am dorri’r gyfraith, mae’n dal i honni y bydd y Deyrnas Unedig yn “gadael ar Hydref 31”, os na fydd cytundeb wedi ei gyrraedd.

Dyw e ddim wedi egluro sut y byddai yn gwneud hyn.

Mae’r Ben Act yn golygu y bydd yn rhaid iddo ofyn am estyniad gan yr Undeb Ewropeaidd os na fydd cytundeb erbyn Hydref 19.