Mae arlywydd Sri Lanca, Maithripala Sirisena, wedi penderfynu peidio sefyll yn etholiad y mis nesaf – a hynny ar ôl methu â chyflawni nifer o’i addewidion ar gyfer ei dymor cyntaf yn y swydd.

Mae 35 o bobol – y nifer uchaf erioed – wedi rhoi eu henwau ymlaen ar gyfer y bleidlais a fydd yn digwydd ar Dachwedd 16, gyda chyn-bennaeth amddiffyn y wlad, Gotabaya Rajapaksa, yn cael ei iystyried yn ffefryn.

Mae’n bologaidd oherwydd iddo  yn ystod ei dymor yn llywodraeth ei frawd, Mahinda Rajapaksa, ddod â’r rhyfel cartref yn erbyn lleiafrif y Tamil i ben ddegawd yn ôl.

Er iddo gael ei gyhuddo gan lawer o ganiatau treisio, arteithio a herwgipio ei feirniaid, mae’n cael ei ystyried yn arwr gan grwpiau lleiafrifol.

Fe fyddai Maithripala Sirisena wedi ei chael hi’n anodd trechu Gotabaya Rajapaksa, ac felly ni thalodd ei ernes erbyn y dyddiad cau, oedd dydd Sul (Hydref 6).