Mae pedwar dyn y mae lle eu gredu eu bod yn ddigartref, wedi cael eu lladd mewn ymosodiad yn Efrog Newydd, ac mae pumed dyn mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae lle i gredu bod gwrthrych metel wedi cael ei ddefnyddio yn yr ymosodiad ym Manhattan.
Cafodd yr heddlu eu galw yn oriau man fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Fe ddigwyddodd yr ymosodiadau mewn llefydd gwahanol ar draws y ddinas, ac mae dyn 24 oed yn y ddalfa.
Dydy enwau’r dynion fu farw ddim wedi cael eu cyhoeddi.