Mae nifer o bobol wedi cael eu hanafu ar ôl i fws dau lawr foelyd ar yr heol yn ne Ddyfaint.

Fe ddigwyddodd rhwng Totnes a Paignton am oddeutu 11 o’r gloch fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5).

Mae lle i gredu bod un person wedi cael anafiadau difrifol ar ôl i’r bws foelyd mewn cae.

Mae’r heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans yn parhau i ymdrin â’r sefyllfa.

Mae cwmni Stagecoach yn helpu’r heddlu gyda’u hymchwiliad, ac mae’r ffordd ynghau am y tro, gyda’r heddlu’n rhybuddio teithwyr i gadw draw o’r ardal.