Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ffrwgwd a gyrru peryglus yn Aberystwyth yn oriau man fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 4.50yb yn dilyn adroddiadau fod ffrwgwd ger bariau a chlybiau nos yng Nglan y Môr.
Yn dilyn y ffrwgwd, cafodd car gwyrdd tywyll ei weld yn cael ei yrru’n beryglus yn yr ardal, a’i fod wedi taro nifer o bobol a philer ar y prom.
Cafodd un dyn driniaeth yn y fan a’r lle, ond dydy ei fywyd ddim mewn perygl, ac fe wrthododd dyn arall driniaeth.
Cafodd tri dyn eu harestio ar amheuaeth o ffrwgwd, ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.