Fydd y trafodaethau rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd oedd i fod i gael eu cynnal dros y penwythnos ddim yn digwydd wedi’r cyfan.
Mae penderfyniad aelodau’r Undeb Ewropeaidd i ohirio’r trafodaethau’n ergyd i Boris Johnson, oedd yn gobeithio trafod ei gynlluniau newydd ar gyfer ffiniau Iwerddon.
Ond dydy’r aelodau ddim yn fodlon derbyn y cynlluniau i ddisodli’r ‘backstop’.
Yn ôl yr Undeb Ewropeaidd, dydy’r cynlluniau “ddim yn sail i ddod i gytundeb”, ac fe fydd cyfle arall gan Lywodraeth Prydain i gyflwyno’u cynlluniau ddechrau’r wythnos nesaf.
‘Dim oedi’
Mae’r cam diweddaraf yn y broses yn ergyd i uchelgais Boris Johnson i sicrhau bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn Hydref 31.
Fe ddywedodd eisoes nad yw’n fodlon ymestyn yr ymadawiad, ond mae hynny’n edrych yn fwy tebygol erbyn hyn, gydag ychydig dros dair wythnos cyn y dyddiad hwnnw.
Ond mae ei gyfreithwyr hefyd wedi dweud y byddai’n cydymffurfio â’r gyfraith sy’n dweud bod rhaid sicrhau Brexit erbyn Hydref 31 doed a ddêl.
Mae Boris Johnson eisoes wedi cydnabod fod rhaid iddo anfon llythyr yn gofyn am ymestyn Brexit os na fydd cytundeb yn ei le erbyn Hydref 19, yn ôl gwrandawiad llys yn yr Alban.