Mae Corwynt Lorenzo wedi achosi difrod yn ynysoedd Azores yng nghanol cefnfor Iwerydd, gyda glaw trwm, gwyntoedd cryfion a thonnau uchel.

Dywed Asiantaeth Amddiffyn Sifil Azores fod y corwynt categori 2 wedi cwympo coed a llinellau trydan, ac mae dau dŷ wedi gorfod cael eu gwagio.

Mae oddeutu 250,000 o bobol yn byw ar y naw ynys.

Mae’r corwynt bellach yn symud tuag at Iwerddon a gwledydd Prydain, ond mae’n debyg y bydd wedi gwanhau i gorwynt categori 1 erbyn iddo gyrraedd.