Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dynes yn sir Gaerffili.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r car yn yr afon ger ffordd y B4251 yn ardal Wyllie ger y Coed Duon brynhawn ddoe (dydd Mawrth, Hydref 1).
Yn ôl Heddlu Gwent, fe ddaeth swyddogion o hyd i gorff y ddynes yn y car.
Dyw’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, meddai’r llu, a dydyn nhw ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus ar hyn o bryd.