Mae pryder am ddiogelwch yn Affganistan wrth i bobl y wlad bleidleisio mewn etholiad ar gyfer arlywydd newydd heddiw.

Mae degau o filoedd o blismyn, swyddogion cudd a milwyr yn gwarchod bron i 5,000 o orsafoedd pleidleisio yn wyneb bygythiad gan y Taliban i darfu ar yr etholiad.

Roedd y Taliban wedi rhybuddio pobl i aros adref, ac eisoes mae 15 o bobl wedi cael eu hanafu mewn bom mewn gorsaf bleidleisio yn Kandahar yn ne’r wlad.

Y ddau geffyl blaen yn y ras yw’r arlywydd presennol Ashraf Ghani a’i bartner yn y llywodraeth undod, Abdullah Abdullah, sydd wedi gwneud honiadau o gamddefnyddio grym yn erbyn ei wrthwynebydd.