Fe fydd corff sy’n ymchwilio i gwynion am yr heddlu yn asesu a ddylai’r Prif Weinidog wynebu ymchwiliad troseddol i’w gysylltiadau â dynes fusnes o America pan oedd yn faer Llundain.

Mae’r achos yn ymwneud â honiadau i Boris Johnson drin Jennifer Arcuri yn ffafriol oherwydd ei chyfeillgarwch ag ef ar y pryd.

Mae’n dilyn dilyn stori a ymddangosodd yn y Sunday Times fod yr Americanes ifanc wedi derbyn £126,000 mewn arian cyhoeddus ac wedi cael mynd ar dair taith i hyrwyddo masnach gyda’r maer saith mlynedd yn ôl.

Gan mai Boris Johnson fel maer oedd yn gyfrifol am heddlu Llundain ar y pryd, mater i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn y lle cyntaf yw ymchwilio a oes sail i ymchwiliad troseddol o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.

Mae Downing Street wedi ymateb yn chwyrn i’r penderfyniad, gan honni ei fod wedi cael ei wneud am resymau gwleidyddol ar drothwy cynhadledd y Blaid Geidwadol ym Manceinon.