Mae’r awdurdodau ar ynysoedd Cape Verde yng ngorllewin Affrica wedi gofyn i arbenigwyr o Sbaen fynd yno i geisio gweld pam bod cant a mwy o ddolffiniaid yn farw ar draeth lleol.
Yn ôl adroddiadau mae hyd at ddau gant o’r creaduriaid wedi eu canfod ar draeth ar ynys Boa Vista.
Bu trigolion lleol yn ceisio llusgo rhai o’r dolffiniaid yn ôl i’r môr, ond fe wnaeth llawer o’r mamaliaid ddychwelyd i’r traeth.