Mae Nicola Sturgeon yn cefnogi’r syniad o orseddu Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog dros dro, os yw hynny’n golygu y byddai’n gohirio Brexit am gyfnod.

Mewn neges ar wefan Twitter heddiw (dydd Gwener, Medi 27), mae Prif Weinidog yr Alban yn dweud ei bod hi wedi twymo at yr opsiwn o osod yr arweinydd Llafur yn Rhif 10 Stryd Downing trwy gyfrwng pleidlais o ddiffyg hyder yn y Llywodraeth Geidwadol bresennol.

Fe fyddai hynny wedyn yn galluogi Jeremy Corbyn i ymestyn y dyddiad ar gyfer cael cytundeb Brexit cyn galw etholiad cyffredinol ar unwaith, meddai wedyn.

“Does dim byd heb ei berygl,” meddai Nicola Sturgeon. “Ond mae gadael i Boris Johnson wthio Brexit heb gytundeb trwyddo – neu hyd yn oed cytundeb gwael – yn syniad dychrynllyd i mi.”

Amheuon

Er mwyn i’r bleidlais o ddiffyg hyder fod yn llwyddiannus, mae angen mwy na dim ond cefnogaeth yr SNP a’r Blaid Lafur.

Ar hyn o bryd, dyw’r Democratiaid Rhyddfrydol ddim yn gyfforddus â’r syniad,  ac yn dweud na fyddan nhw’n barod i gefnogi llywodraeth sy’n cael ei harwain gan Jeremy Corbyn.

“Mae angen cynllun sydd â siawns o lwyddo,” meddai llefarydd ar ran y blaid yn yr Alban.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn barod i gefnogi llywodraeth dros dro er mwyn atal Brexit heb gytundeb, ond all hwnnw ddim cael ei harwain gan y Jeremy Corbyn dadleuol.”

Beirniadu’r SNP

Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Kirstene Hair, mae cyhoeddiad Nicola Sturgeon o’i safbwynt yn cadarnhau’r hyn mae nifer wedi bod yn ei amau ers tro, sef y byddai “Aelodau Seneddol yr SNP yn hapus i gefnogi Jeremy Corbyn yn Rhif 10.”

“Does dim dwywaith bod safbwynt gwan Corbyn ar ail refferendwm annibyniaeth yn brif ffactor tros benderfyniad y cenedlaetholwyr,” meddai’r aelod tros Angus.

“Mae e eisoes wedi gadael y drws yn agored ar gyfer ail-rediad o’r refferendwm yn 2014 os daw yn Brif Weinidog.

“Dim ond Llywodraeth Geidwadol sy’n fodlon sefyll dros y rheiny a bleidleisiodd ‘Na’ yn yr hyn a oedd i fod yn ddigwyddiad unwaith mewn cenhedlaeth.”