Mae teiffŵn grymus wedi taro rhannau o Dde Corea, gan anafu dwsinau o bobol.
Mae tua 27,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan.
Yn gynharach, roedd Teiffwn Tapah wedi difrodi rhannau o ynys Okinawa yn ne Siapan gyda glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn achos llifogydd a rhai man anafiadau.
Dywedodd gweinidog De Corea bod y teiffŵn hefyd wedi achosi gwyntoedd cryfion a glaw mewn rhai dinasoedd a threfi yn y de, gan ddifrodi cartrefi.
Cafodd un person eu hanafu’n ddifrifol a 25 o bobol eraill fan anafiadau.
Bu’n rhaid canslo 250 o hediadau mewn 11 maes awyr yn Ne Corea.