Mae’r gwasanaethau brys wedi’u galw i wrthdrawiad difrifol yn Sir y Fflint bore ma (dydd Llun, Medi 23).
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5118 ger Llong ar ffordd yr Wyddgrug tua 6.20 bore ma.
Mae traffig yn cael ei arallgyfeirio ac mae Heddlu’r Gogledd yn annog gyrwyr i ddefnyddio ffyrdd eraill.
Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.