Fe fydd Jeremy Corbyn yn wynebu gwrthdaro gydag aelodau Llafur heddiw ynglŷn a’i pholisi Brexit wrth iddyn nhw alw ar y blaid i gefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r arweinydd wedi dweud y dylai’r blaid aros yn niwtral wrth fynd i etholiad cyffredinol gan ddweud y byddai’n trafod cytundeb brexit newydd gyda Brwsel cyn cynnal refferendwm ar y mater.

Ond fe fydd aelodau yng nghynhadledd y blaid yn Brighton yn pleidleisio i weld a ddylai’r blaid ymgyrchu i aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd – hyd yn oed os ydy hynny’n golygu gwrthod cytundeb sydd wedi cael ei gytuno rhwng Llywodraeth Lafur a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae polisi Brexit Llafur wedi achosi rhwygiadau o fewn y blaid. O ganlyniad fe fydd dau gynnig yn cael eu rhoi gerbron yr aelodau – un yn galw ar Lafur i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, a’r llall yn galw am bolisi o fod yn niwtral.