Mae 20 o bobol wedi’u lladd a 90 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad gan hunanfomwir yn Affganistan.
Cafodd rhan o ysbyty dinas Qalat ei dinistrio gan y ffrwydrad, a chafodd fflyd o ambiwlansys eu difrodi.
Mae grŵp eithafol y Taliban yn honni mai nhw sy’n gyfrifol am yr ymosodiad, a daw’r bomio rhai wythnosau wedi i drafodaethau rhyngddyn nhw â’r Unol Daleithiau fethu.
Oriau cyn yr hunanfomio, cafodd hyd at 30 o bobol eu hanafu a’u lladd yn dilyn ymosodiad drôn yn nhalaith Nangarhar.
Mae’r Unol Daleithiau wedi cael beio am y marwolaethau, ond hyd yma dyw byddin y wlad ddim wedi ymateb i’r honiad.
Mae sïon yn dew mae lladd aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) – grŵp eithafol arall – oedd y nod.