Mae yna debygrwydd rhwng trychineb niwclear Fukushima a thrychineb Aberfan, yn ôl ymgyrchydd gwrth-niwclear o Gymru.

Daw sylwadau Robat Idris, o PAWB (Pobol Atal Wylfa B), wedi i lys yn Japan ddyfarnu cyn-benaethiaid camni Tepco yn ddieuog o esgeulustod troseddol.

Tepco oedd yn gyfrifol am atomfa Fukushima pan gafodd ei tharo gan swnami yn 2011, ac yn sgil y trychineb bu farw a diflannodd 18,500 o bobol.

Roedd y cwmni wedi’i rybuddio am y swnami ac wedi dewis peidio ymateb, yn ôl erlynyddion, ac yn hyn o beth mae’r achos yn debyg i drychineb Aberfan yr 1960au, meddai Robat Idris.

“Dw i’n meddwl y gallwn ni dynnu rhyw fath o gymhariaeth, os liciwch chi, efo’r broses gyfreithiol a ddigwyddodd yn y wlad yma yn dilyn Aberfan,” meddai wrth golwg360.

“I bob pwrpas, y [Bwrdd Glo Cenedlaethol] oedd yn gyfrifol. [Digwyddodd y trychineb] er gwaetha’ sawl rhybudd gan bobol leol ac [o ffynonellau] eraill.

“Ac wrth gwrs, rydym yn gwybod beth ddigwyddodd yn fanna. Dw i’n meddwl bod o’n adlewyrchu meddylfryd y wladwriaeth i raddau helaeth, ddim jest y farn gyfreithiol.”

Aberfan

Bu farw 144 o bobol (28 oedolyn a 116 o blant) yn Aberfan, pan lilthrodd domen o wastraff ar Hydref 21, 1966. Roedd y domen ar lethr mynydd, ar dir llaith ac anaddas, ac mi drodd yn slyri yn dilyn glaw trwm.

Y Bwrdd Glo Cenedlaethol oedd yn gyfrifol am y domen, ac er i adroddiad rhoi’r bai am y trychineb ar y corff hwnnw, chafodd neb ei erlyn.

Taith i Fukushima

Fe deithiodd Robat Idris – ynghyd ag eraill o fudiad PAWB – i Fukushima ddechrau’r flwyddyn er mwyn protestio yn erbyn cynlluniau niwclear yng Nghymru.