Mae tri llanc wedi mynd o flaen eu gwell wedi eu cyhuddo o lofruddio’r heddwas, Andrew Harper.
Fe ymddangosodd Henry Long, 18, o ardal Mortimer, a dau lanc, 17 – sy’n methu â chael eu henwi oherwydd eu hoedran – gerbron Llys Ynadon Reading heddiw (dydd Iau, Medi 19).
Mae’r tri, yn ogystal â Thomas King, 21, o ardal Basingstoke, hefyd yn cael eu cyhuddo o gynllwyno i ddwyn beic cwad.
Bydd y tri llanc yn cael eu cadw yn y ddalfa tan eu hymddangosiad gerbron yr Old Bailey yn hwyrach heddiw.
Mae disgwyl i Thomas King ymddangos gerbron yr Old Bailey tua’r un adeg hefyd.
Cefndir
Bu farw Andrew Harper, 28, ar Awst 15 ger pentref Sulhamstead yn Berkshire yn sgil derbyn anafiadau lluosog ar ôl cael ei lusgo o dan gerbyd tra oedd yn ymateb i adroddiad am ladrad.
Roedd wedi bod yn briod â’i wraig, Lizzie, am ddim ond cyfnod o fis adeg ei farwolaeth.
Mae dyn arall – Jed Foster, 20 – eisoes wedi ymddangos gerbron y llys wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Reading ar Dachwedd 20.