Mae cais Edwards Snowden i dderbyn lloches yn Ffrainc wedi cael ei wrthod.
Yn ôl llywodraeth y wlad, dyw hi ddim yn briodol ar hyn o bryd i gynnig lloches i’r gŵr sy’n gyfrifol am ryddhau dogfennau cyfrinachol am raglenni gwyliadwriaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau.
Wrth gyflwyno’r cais yr wythnos hon, ddadleuodd Edward Snowden nad yw cynnig lloches i’r rheiny sy’n rhyddhau gwybodaeth gyfrinachol yn “weithred ymosodol”.
Roedd wedi cyflwyno cais tebyg yn 2013 ac, wrth siarad â CNnews, dywedodd Gweinidog Tramor Ffrainc, Jean-Yves Le Drian, nad oes “dim wedi newid” oddi ar hynny.
Mae Edward Snowden, sydd ar hyn o bryd yn byw yn Rwsia, wedi cyflwyno cais am loches mewn sawl gwlad.
Mae disgwyl i’w hunangofiant gael ei gyhoeddi mewn tua ugain o wledydd yr wythnos hon, gan gynnwys Ffrainc.