Bydd y Senedd yng Ngwlad Pŵyl yn cael ei gohirio tan ar ôl yr etholiad ym mis Hydref yn dilyn cynnig dadleuol gan y brif blaid yno.
Agorodd sesiwn olaf y Senedd bresennol ddydd Mercher (Medi 11) ac fe fydd yn cynnwys pleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog cyfiawnder. Bydd y ddeddfwrfa wedyn yn cael ei gohirio tan ganol fis Hydref.
Amser i ymgyrchu
Yn ôl y blaid ‘Cyfraith a Chyfiawnder’ – y blaid fwyaf yn y Senedd – y bwriad yw rhoi mwy o amser i wleidyddion ymgyrchu cyn yr etholiad.
Ond mae’r gwrthbleidiau, ar y llaw arall, yn credu bod gan y blaid asgell-dde fwriadau amheus ar gyfer y cyfnod wedi’r etholiad ar Hydref 13.
Dyma fydd y tro cyntaf ers i ddemocratiaeth gael ei hailsefydlu yng Ngwlad Pŵyl i’r gwleidyddion presennol ymgynnull wedi etholiad.