Mae Llys Sifil uchaf yr Alban wedi datgan fod penderfyniad Boris Johnson i ohirio;r Senedd yn anghyfreithlon.
Bu i banel o dri barnwr ddatgan o blaid grŵp traws-bleidiol o wleidyddion a oedd yn herio penderfyniad y Prif Weinidog o ddiddymu’r Senedd am bump wythnos.
Yn ôl y barnwyr roedd y Boris Johnson yn ceisio atal y Senedd rhag craffu’r Llywodraeth ynglŷn â Brexit.
Mae’r penderfyniad yn mynd yn groes i ddyfarniad blaenorol gan y llys, a honodd nad oedd Boris Johnson wedi torri’r gyfraith.
Dywed Llywodraeth San Steffan eu bod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad yn Y Goruchaf Lys yn Llundain.
Mae’n aneglur ar hyn o bryd os fydd y dyfarniad yn effeithio ar y sefyllfa bresennol yn San
Steffan ai peidio, gan fod y Senedd wedi bod ar gau ers bore Mawrth (Medi 10).