Dywed y newyddiadurwr Guto Harri – fu’n gweithio i Boris Johnson am bedair blynedd – na fyddai wedi derbyn swydd gyda fe yn Rhif 10 pe bai wedi cael cynnig.

Yn ôl Guto Harri, fu’n gweithio fel cyfarwyddwr cyfathrebu i Boris Johnson rhwng Mai 2008 a Mai 2012 pan oedd hwnnw yn faer ar Lundain: “Bydde genai ddim unrhyw ddiddordeb o gwbl gweithio i unrhyw lywodraeth sy’n trio arwain Prydain allan o’r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.”

“Ond pan oeddwn i’n gweithio i Boris, roeddwn i’n ymwybodol fod unrhyw awdurdod oedd gena i yn tarddu o’r mandate etholiadol oedd ganddo fe. Ac roeddwn i’n ymwybodol iawn fod yn rhaid imi fod yn gynrychiolydd teilwng ohono fe.”

Yn gyn-brif ohebydd gwleidyddol gyda’r BBC ac yn gyn-fyfyriwr yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen tra roedd Boris Johnson yn fyfyriwr yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, gadawodd Guto Harri ei swydd gyda Boris Johnson i fynd i weithio i Rupert Murdoch. Mae wedi gweithio mewn sawl swydd yn y byd cyfathrebu ers hynny ac ef yw cyflwynydd rhaglen Y Byd Yn Ei Le ar S4C.

Mewn cyfweliad blaenorol gyda golwg360, dywedodd Guto Harri, a anwyd yng Nghaerdydd: “Roedd Boris, pan oeddwn i’n gweithio iddo fe, yn un o’r bobol fwyaf eangfrydig, pro-Ewropeaidd a goddefgar allwn i ei ddychmygu mewn gwleidyddiaeth – yn enwedig, efallai, gwleidyddiaeth geidwadol.

“Roedd e’n gymaint o sioc i mi ag oedd e i’w frodyr, ei chwiorydd a’i dad pan ddywedodd ei fod am adael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd e’n sioc ryfeddol.”

Cummings “ddim yn gynrychiolydd teilwng”

Nid yw Guto Harri yn credu fod Dominic Cummings yn gynrychiolydd teilwng o’r Prif Weinidog yn San Steffan.

Dywed: “Dw i’n credu pan fod Dominic Cummings yn swagro o gwmpas San Steffan gyda gwydred o win yn ei law yn rhegi wrth bobl, yn esgus nad yw’n gwybod pwy yw pobl fel Kenneth Clarke ac yn diswyddo cynghorwyr teyrngar a gweithgar mewn modd mor ddramatig, dyw e ddim yn gynrychiolydd teilwng o’r dyn oeddwn i’n arfer gweithio iddo fe.”

Cyfres newydd

Dechreuodd cyfres newydd o Y Byd Yn Ei Le neithiwr (Medi 10) a bu Guto Harri yn holi Kenneth Clarke, y cyn-ganghellor, AS Ceredigion Ben Lake a David Davies, AS Mynwy.

Dywedodd Kenneth Clarke ar y rhaglen y byddai yn fodlon dod yn brif weinidog dros dro mewn llywodraeth o undod cenedlaethol er mwyn datrys Brexit.

Wrth annog pawb i wylio’r gyfres newydd, meddai Guto Harri: “Mae’n gyfnod eithriadol o gyffrous, mae holl reolau’r gêm wleidyddol wedi chwalu’r rhacs a fedrwn ni ddim cymryd dim byd yn ganiataol bellach.

“Felly mae cael y cyfle i fod ar yr awyr gyda gwleidyddion Cymreig a hefyd rhai o enwau mawr y byd gwleidyddol Prydeinig yn gyfle gwych.”
Mae Y Byd Yn Ei Le yn cael ei ddarlledu bob nos Fawrth am 9.30yh ar S4C.