Mae tri deg pedwar o ffoaduriaid, yn cynnwys menywod a phlant bach a gafodd eu hachub gan gwch hwylio Almaenig, wedi cael eu trosglwyddo i ofal llong ddyngarol i’r gogledd o Libya.

Digwyddodd y trosglwyddiad yn hwyr ddoe (dydd Lun, Medi 9), ger maes olew Bouri.

Roedd y 22 dyn, chwech o ferched a bachgen blwydd oed wedi cael eu hachub yn gynharach yn y dydd o gwch rwber gydag injan, a hynny gan griw cwch hwylio.

Erbyn hyn mae mwy nag 80 o ffoaduriaid ar y llong, a achubodd 50 o bobol eraill hefyd dros y penwythnos.