Mae’r bobol sy’n teimlo cywilydd sydd ar eu gwyliau yn troi at lanhau traethau i ddod dros y teimlad, meddai canlyniadau arolwg gan gwmni teithio Thomas Cook.
Mae 1,500 o’i gwsmeriaid wedi codi cyfanswm o 25,000 o eitemau o sbwriel o draethau tra ar wyliau yr haf hwn, yn ol y canlyniadau.
Mae’r trefnydd teithiau wedi gorchymyn i bob un o’i 200 o’i westai ei hun gynnal gweithgareddau glanhau traeth rheolaidd ar gyfer gwesteion y flwyddyn nesaf.
Mae ymchwil y cwmni yn dangos bod traean y cwsmeriaid yn dweud bod gweld sbwriel ar draeth yn effeithio ar p’un a ydyn nhw’n dychwelyd i leoliad, tra bod dau o bob pump o bobl ar eu gwyliau yn fwy tebygol o ddewis gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned leol nag yr oeddent 10 mlynedd yn ôl.
“Diolch i Greta Thunberg ac actifyddion eraill, fel defnyddwyr rydyn ni’n dod yn llawer mwy ymwybodol o’r effaith y mae ein hymddygiad yn ei chael ar y blaned,” meddai cyfarwyddwr materion corfforaethol grŵp Thomas Cook, Alice Macandrew.