Mae Iran wedi rhyddhau saith aelod o griw y tancer Stena Impero, yn ôl perchennog y cwch.

Cafodd y tancer ei feddiannu fis Gorffennaf gydag Iran y honni ei bod wedi torri’r gyfraith – a hynny ar ôl i awdurdodau Prydain yn Gibraltar feddiannu tancar o Iran, gan honni ei fod yn cludo olew i Syria.

Mae 16 aelod o griw Stena Imperio sy’n weddill yn aros ar y gwch.