Mae brawd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i fod yn Aelod Seneddol – a hynny am na fedr o gadw’r balans rhwng bod yn ffyddlon i’w frawd ar y naill law, a gwneud yr hyn sy’n iawn i’r “wlad’ ar y llall.

Mae Jo Johnson yn dal swydd Gweinidog Busnes yn llywodraeth ei frawd mawr, ac mae wedi bod yn Aelod Seneddol Torïaidd tros etholaeth Orpington ers blynyddoedd.

Mae wedi dweud ar wefan gymdeithasol Twitter heddiw fod yna “bwysau amhosib” ar ei ysgwyddau yn y swydd .

Fe ymddiswyddodd Jo Johnson hefyd o’i swydd yng nghabinet Theresa May dros y ffordd oedd hi’n delio â Brexit.