Bydd yn “rhaid” i Boris Johnson dalu i sylw i sesiwn Brexit a fydd yn cael ei chynnal yn y Senedd yn nes ymlaen heddiw, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Bydd Aelodau Cynulliad yn dychwelyd yn gynnar o’i gwyliau brynhawn heddiw er mwyn trafod a yw’n “warth” bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig am atal gwaith Senedd San Steffan.
Yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg ar fore dydd Iau (Medi 5), dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, bod y sesiwn yn gyfle i’r Cynulliad gyflawni ei “rôl ddemocrataidd”.
Ategodd ei bod gyfle yn i’r sefydliad “gyfrannu” at ymdrechion i rwystro Brexit heb gytundeb, a mynnodd wrth golwg360 y bod dim dewis gan Boris Johnson ond talu sylw.
“Bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog wrando,” meddai wrth golwg360. “Mae mewn sefyllfa lle mae wedi colli’r mwyafrif a oedd gyda fe ar lawr Tŷ’r Cyffredin.
“Ac os mae’n mynd i lwyddo i ffeindio unrhyw ffordd trwy’r problemau sy’n ei wynebu ar hyn o bryd, yr unig ffordd yw i wrando ar y pethau mae pobol yn dweud iddo fe.
“Ac rydym yn cynnal cyfarfod prynhawn yma i gyfleu neges fel hynna yn glir ac yn gryf. Dyna yw’r ffordd gorau i ni gael y dylanwad rydym eisiau ei weld.”
Y cynnig
Er nad oes disgwyl i Aelodau Cynulliad ddychwelyd i’w gwaith yn swyddogol tan Fedi 17, maent wedi cael eu galw yn ôl gan y Llywydd, Elin Jones – ar gais y Prif Weinidog – ar gyfer sesiwn hynod heddiw.
Daw’r penderfyniad yma wrth i bethau poethi yn Senedd San Steffan o ran Brexit, ac wedi i Boris Johnson ddatgan ei fod am ddiddymu’r senedd honno dros dro.
Brynhawn heddiw mi fydd Aelodau Cynulliad yn trafod cynnig ynghylch Brexit a gafodd ei gynnig ar y cyd-gân y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, a’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Mae’r cynnig yn galw ar y Cynulliad i labeli cam Boris Johnson yn “warth”, i atseinio’i wrthwynebiad at Brexit heb gytundeb, ac i geisio rhwystro ymadawiad heb gytundeb.