Mae dyn ifanc wedi marw ar ôl cael ei daro gan gar yn ardal Amlwch neithiwr (nos Fercher, Medi 4).

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw toc wedi 10.15yh yn dilyn gwrthdrawiad a oedd yn cynnwys Ford Fiesta glas a cherddwr ar ffordd ddi-ddosbarth rhwng Amlwch a Rhosgoch.

Fe gafodd ambiwlans ei alw i’r safle, ond bu farw’r cerddwr yn y fan a’r lle.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae’r ffordd yn dal i fod ynghau.

Maen nhw hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.