Fe gafodd cynnig i gynnal pleidlais ar gynllun Brexit y cyn-Brif Weinidog, Theresa May, ei gymeradwyo gan Dŷ’r Cyffredin trwy ddamwain ddoe (dydd Mercher, Medi 4).

Yn ystod diwrnod dramatig arall yn San Steffan, roedd Aelod Seneddol Aberafon, Stephen Kinnock, wedi cynnig gwelliant i’r mesur brys sy’n ceisio atal Brexit heb gytundeb, ac sydd bellach yn cael ei ystyried gan Dŷ’r Arglwyddi.

Mae’r gwelliant yn nodi y dylai Aelodau Seneddol gael y cyfle i bleidleisio ar gytundeb Brexit olaf Theresa May, a ddaeth i fodolaeth yn sgil trafodaethau trawsbleidiol ar ddechrau’r haf ond na chafodd erioed ei roi gerbron y Senedd.

Pan gafodd pleidlais ar y gwelliant ei galw neithiwr, doedd dim digon o adroddwyr ar gael ar gyfer y cyfrif, ac felly fe benderfynodd y Dirprwy Lefarydd, Syr Lindsay Hoyle, i gymryd y cam anarferol o gymeradwyo’r gwelliant heb bleidlais.

Yn ôl Stephen Kinnock, fe gyflwynodd y gwelliant oherwydd ei fod yn credu y byddai’r cytundeb wedi cael ei gymeradwyo pe bai Theresa May wedi cael y cyfle i’w gyflwyno gerbron y Senedd pan oedd hi’n Brif Weinidog.

“Dw i’n meddwl bod llawer ohonom ni, pan ddaethom ni i’r lle hwn, wedi dymuno cael pelen risial,” meddai.

“Roedd ein hochr ni yn barod i dderbyn y cytundeb, a bellach fe ddylwn ni ddod o hyd i ffordd er mwyn sicrhau bod y cytundeb hwnnw yn cael dychwelyd i’r bwrdd.”