Mae arweinydd Hong Kong yn mynnu mai penderfyniad ei llywodraeth hi, ac nid Tsieina, oedd yr un i gael gwared ar y mesur estraddodi amhoblogaidd.

Dywedodd Carrie Lam mewn cynhadledd i’r wasg fod y llywodraeth yn Beijing yn “deall, parchu ac yn cefnogi” ei llywodraeth yn sgil y penderfyniad.

“Mae’r penderfyniad yn un sy’n eiddo i Lywodraeth Hong Kong,” meddai. “Drwy gydol yr holl broses, mae’r llywodraeth ganolig yn dweud ei bod hi’n deall pam y mae’n rhaid i ni wneud hyn.

“Maen nhw’n parchu fy safbwynt, ac yn fy nghefnogi’n llwyr.”

Roedd cael gwared ar y mesur yn un o ofynion protestwyr y rhanbarth, ond dydyn nhw ddim am ildio tan fod Llywodraeth Hong Kong yn cytuno i’w gofynion eraill, medden nhw.

Mae’r rheiny yn cynnwys cynnal ymchwiliad annibynnol i ymddygiad yr heddlu yn ystod protestiadau’r misoedd diwethaf; rhyddhau protestwyr sydd o dan glo; a chynnal etholiadau er mwyn dewis arweinydd y ddinas.

Ond mae Carrie Lam wedi dweud na all hi ufuddhau i unrhyw ofynion eraill, cyn ychwanegu y bydd corff rheoleiddio’r heddlu yn gyfrifol am gynnal ymchwiliad i ymddygiad swyddogion, a bod rhyddhau protestwyr yn ddigyhuddiad yn “annerbyniol”.

Ers i’r protestio ddechrau ym mis Mehefin, mae bron i 1,200 o bobol wedi cael eu harestio gan yr awdurdodau.