Fe all mesur sy’n ceisio atal Brexit heb gytundeb gael ei gymeradwyo gan yr Arglwyddi yn gynt na’r disgwyl, er gwaethaf pryderon bod rhai o aelodau’r siambr wedi gobeithio ei rwystro trwy wastraffu amser.

Mae’r mesur – sy’n cael ei ystyried gan Boris Johnson yn ymgais i danseilio’r trafodaethau Brexit – bellach wedi cyrraedd Tŷ’r Arglwyddi ar ôl iddo gael ei gludo ar frys drwy Dŷ’r Cyffredin ddoe (dydd Mercher, Medi 4).

Roedd un arglwyddes Llafur, sef y Farwnes Kennedy, wedi cyhuddo’r Arglwydd True o’r Blaid Geidwadol o wastraffu amser ar ôl iddo gynnig cyfres o welliannau i’r mesur.

Ond erbyn 1.30yb heddiw, fe gyhoeddodd y prif chwip, yr Arglwydd Ashton, y bydd y mesur wedi clirio pob cymal yn y siambr erbyn 5yp ddydd Gwener.

Fe fydd wedyn yn dychwelyd i Dŷ’r Cyffredin ddydd Llun yn barod, cyn cael ei roi gerbron y Frenhines ar yr un diwrnod er mwyn derbyn ei sêl bendith.

Dim cefnogaeth i etholiad brys

Bu ddoe yn ddiwrnod dramatig arall yn San Steffan, pan gafodd cynllun Brexit y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, ei wrthod gan Aelodau Seneddol.

Yn ogystal â chael ei faeddu ar fesur y Brexit dim cytundeb, fe gafodd ei gynnig i alw am etholiad brys ei wrthod hefyd.

Roedd Boris Johnson wedi gobeithio galw etholiad ar Hydref 15, ond fe fethodd â sicrhau cefnogaeth y Blaid Lafur a’r gwrthbleidiau eraill.

Roedd angen cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau Seneddol arno, ond roedd yn 136 o bleidleisiau yn fyr yn y bleidlais ar ddiwedd y dydd.

Mewn awgrym y gall alw eto am etholiad, mae Boris Johnson wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o fod yr arweinydd yr wrthblaid cyntaf “yn hanes democrataidd ein gwlad” i wrthod gwahoddiad i etholiad.