Fydd Aelod Cynulliad Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden, ddim yn gorymdeithio ddydd Sadwrn (Medi 7).

Ond mae’r gwleidydd Llafur yn dweud nad yw hi’n gwbwl wrthwynebus i’r syniad o annibyniaeth yng nghanol “y sefyllfa gythryblus” y mae gwledydd Prydain ynddi ar hyn o bryd.

“Dw i ddim yn gweld unrhyw arwydd gan bobol Merthyr fod annibyniaeth yn bwnc llosg,” meddai wrth golwg360, “ond dw i’n deall pam fod y rali yn cael ei chynnal yma.

“Mae Brexit yn fwy o beth nag annibyniaeth i drigolion Merthyr,” meddai wedyn, “a dw i ddim yn credu fod mudiadau fel YES Cymru wedi cysidro hynny yn drylwyr.

“Fe bleidleisiodd Merthyr Tudful, ac yn wir Cymru gyfan, dros adael yr Undeb Ewropeaidd… ond er bod Brexit yn gatalydd i ymgyrch dros annibyniaeth i bobol yr Alban, nid dyna’r sefyllfa yng Nghymru.”

Gall unrhyw beth newid yn 2021

Mae Dawn Bowden yn credu y bydd etholiadau’r Cynulliad ymhen dwy flynedd achsi i “unrhyw beth ddigwydd”.

“R’yn ni mewn sefyllfa wleidyddol nad ydyn ni erioed wedi bod ynddi hi cyn hyn,” meddai’r Aelod Cynulliad. “Does gyda ni ddim syniad sut y bydd Cymru ar ól Brexit yn edrych…

“Ond beth fydden i’n ei ddweud yw, mae’r Brexit Party wedi llwyddo i ennill 19 allan o’r 22 sedd mewn ardaloedd awdurdod lleol yn etholiadau Ewrop, ac yma yma Merthyr, fe fethodd Llafur ag ennill y sedd am y tro cyntaf erioed.

“Felly, fydden i ddim yn synnu pa bynnag ffordd mae pethe’n mynd, ac yn wir, dyna pam fod angen cadw annibyniaeth i Gymru yn rhan o’r sgwrs.”